Dy orsedd oedd erioed, Dduw Ner,
Cyn gwneuthur ser na moroedd;
Ti wyt drag'wyddol fywiol Dduw,
Er trengu
pob rhyw bobloedd.
Natur ac amser oll heb gudd,
I'th olwg sydd yn eglur;
O ffurfiad 'r wybren fry,
a'r llawr,
Hyd y dydd mawr eu llosgir.
Blynyddoedd trag'wyddoldeb sy
'N bresenol i ti beunydd;
'Does dim yn hen i'th olwgfaith,
Fod mawr, na dim yn newydd.
Rhoed nef a daear
fyth in' Iôn,
Anrhydedd cyson siriol;
Addoliad dwys, gwasanaeth glân,
A hyfryd gân drag'wyddol.
Casgliad E Griffiths 1855
[Mesur: MS 8787] gwelir: Clodforwn di O Arglwydd da Dy fawredd di mor hynod yw |
Thy throne has been forever, Lord God,
Before the making of stars of seas;
Thou art eternally a living God,
Despite the decease
of all kinds of peoples.
Nature and time all without concealment,
To thy view are clear;
From the formation of the sky above,
and the earth,
Until the great day of their burning.
The years of eternity are
Present to thee daily;
Nothing is old to thy vast view,
Great Being, nor anything new.
Let heaven and earth give
forever to our Lord,
Constant, cheerful honour;
Intense worship, holy service,
And a delightful, eternal song!
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|